English / Cymraeg

Gofal Gwalia - Gwasanaeth i'w Brynu

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru'n cynnig gwasanaeth i'w brynu sy'n golygu y gallwch ddewis talu'n uniongyrchol am eich gwasanaeth neu ychwanegu oriau ychwanegol i'ch pecyn gofal sydd wedi'i gyllido'n barod.

Mae Gofal Gwalia'n wasanaeth cyson, dibynadwy o safon uchel y gallwn ei ddarparu unrhyw le yng Ngogledd Cymru yn ystod y dydd, gyda'r nos, ar y penwythnos neu dros nos. Gyda'n gilydd, gallwn lunio pecyn gofal sy'n addas i chi.

Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn â sut y gallai Gofal Gwalia eich helpu gyda chymorth a chefnogaeth ychwanegol yn eich cartref, lawrlwythwch ein taflen:

neu ffoniwch ni heddiw ar:

01492 542212

Hefyd gallwch deimlo'n dawel eich meddwl ein bod ni, fel elusen, yn gofalu am bobl nid elw.