English / Cymraeg

NEWYDDION

GOROESI

GOROESI

Thursday 6th April 2017

Gan weithio gyda Wild Elements sydd wedi eu seilio yng Ngerddi Botaneg Treborth ym Mangor, rydym yn edrych ymlaen at gynnal 'cwrs goroesi' i Oedolion Ifanc sy'n Ofalwyr y Gwanwyn/Haf yma. Bydd y cwrs yn cychwyn ar ôl y Pasg pan fyddwn yn cynnal cyfres o sesiynau gyda'r nos yn arwain at wersyll dros nos ym mis Gorffennaf. Bydd y cwrs yn ymwneud â sgiliau megis Cymorth Cyntaf ac Iechyd a Diogelwch, gyda gweithgareddau a fydd yn cynnwys archwilio'r awyr agored, gwneud lloches, coginio tu allan, cerddoriaeth, a rhagor o bethau annisgwyl!

Os ydych yn ofalwr 16-25 oed sy'n byw yn ardaloedd Môn/Bangor a chennych ddiddordeb mewn dod, ffoniwch ni ar 07887 3672220 i gael rhagor o fanylion. Mae'r cwrs yn llenwi'n weddol gyflym felly cysylltwch cyn hir os hoffech gael lle.