English / Cymraeg

NEWYDDION

GWOBRAU BUSNES 2017 Y DAILY POST

GWOBRAU BUSNES 2017 Y DAILY POST

Monday 6th November 2017

Mae hi wedi bod yn bleser mawr gennym glywed ein bod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Busnes 2017 y Daily Post! Cyhoeddwyd hyn yn y papur newydd yr wythnos diwethaf a chawsom yr hysbysiad isod gan Dîm Digwyddiadau'r Daily Post:

'Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych eleni, yn gyntaf am safon eithriadol o uchel y ceisiadau a dderbyniwyd ac hefyd oherwydd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd gan fusnesau unigol. Mae'r beirniaid wedi ei chael hi'n hynod o anodd dod i benderfyniad.

Mae'n bleser rhoi gwybod i chi bod Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru Carers Trust North Wales wedi llwyddo i gael eu dewis i fynd i'r rownd derfynol yn y categori "Gwobr Gymunedol dan nawdd Horizon Nuclear Power". Llongyfarchiadau!'

Bydd y seremoni wobrwyo ym Mhrifysgol Bangor ar 30 Tachwedd 2017 a dydyn ni methu aros!

Pob lwc i bawb sydd yn y rownd derfynol!