Gwasanaeth Cymorth Dementia
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru'n cynnig gwasanaeth sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'i deilwra'n arbennig i bobl pan gânt eu diagnosis Dementia. Mae'r gwasanaeth yma ar gael i unigolion a'u gofalwyr/ teuluoedd.
Mae ein Cydlynwyr Dementia wedi'u seilio yn y Clinigau Cof ledled Gogledd Cymru sy'n darparu gwybodaeth a chyngor i bobl gyda Dementia a'u gofalwyr a'u teuluoedd. Gall y Cydlynwyr helpu i:
- Gynllunio ar gyfer y dyfodol
- Roi cefnogaeth emosiynol
- Cynghori am arian/cyllid
- Dangos y ffordd
- Rhoi gwybodaeth am grwpiau gweithgareddau cymdeithasol
- Mynd ar ymweliadau â'r cartref
TAITH NI
NODWCH OS GWELWCH YN DDA - MAE POB GRWP WEDI EI OHURIO HYD NES Y CLYWIR YN WAHANOL
Yn rhan o'r Gwasanaeth Cefnogi Dementia, rydym yn cynnal grwpiau cymorth lleol bob mis i bobl gyda dementia a'u teuluoedd a'u ffrindiau ymhob ardal o Ogledd Cymru. Dewch draw i ymuno â ni i gael hyfforddiant, gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth - bydd croeso mawr i chi. Cynhelir y grwpiau o 11.00 am hyd 3.00 pm - cewch aros am yr amser cyfan neu alw draw am gyfnod byrrach os byddai hynny'n well gennych. Mae cinio ar gael (rhaid talu ffi).
I ganfod lle mae eich grŵp Taith Ni agosaf a phryd mae'n digwydd nesaf, ffoniwch 01492 542212.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn a sut i gael gafael ar y gefnogaeth yma, ffoniwch ni ar: