NEWYDDION

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru'n cefnogi Llywodraeth Cymru i ddarparu £1m o grantiau i helpu gofalwyr di-dâl sy'n dioddef caledi
Monday 7th December 2020
Mae Llywodraeth Cymru'n darparu buddsoddiad o £1m mewn cynllun sydd ar waith drwy Gymru gyfan i geisio lleihau'r caledi y mae miloedd o ofalwyr ledled Cymru'n ei wynebu ar hyn o bryd.
Pwrpas y gronfa hon yw sicrhau bod gofalwyr di-dâl yng Nghymru'n gallu cael gafael ar gymorth ariannol ychwanegol ar gyfer eu gwaith gofalu drwy dderbyn grantiau lleol o hyd at £300 i bob gofalwr. Gallent wario'r grant ar eitemau fel
- offer technoleg gwybodaeth,
- nwyddau gwynion,
- cyflenwadau bwyd,
- teledu tanysgrifio,
- hamperi lles,
- hamperi bwyd,
- hamperi Nadolig.
I ganfod rhagor ac i gael cyngor ynglŷn â sut i wneud cais am grant, ffoniwch ni yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru ar 01492 542212 neu anfonwch e-bost i northwales@nwcrossroads.org.uk