English / Cymraeg

EIN GWASANAETHAU

Ein Gwasanaethau

SYLWADAU GAN DDEFNYDDWYR EIN GWASANAETH

“Mae’r cyfle i sgwrsio a dod yn ffrindiau gyda staff Croesffyrdd o fudd enfawr i mi a’m gwraig”

“Mae’n bleser o’r mwyaf dod i’ch grŵp, mae’n gymaint o hwyl bob amser ”

“Rydych yn gwneud llawer iawn o wahaniaeth i ansawdd fy mywyd”

“Mae eich Gweithwyr Cymorth yn bobl mor ofalgar a chariadus a gallwn oll ymddiried ynddynt”

“Mae’n nefoedd cael egwyl bob wythnos, dyma’r unig seibiant a gaf”

“Alla i ddim canmol y gwasanaeth yma ddigon… mae’r gwasanaeth mor fuddiol i ni oll fel teulu”

“Os na fyddai fy ngweithiwr cymorth yn dod yma, fyddwn i byth yn gadael y tŷ”

“Mae angen egwyl ar frodyr a chwiorydd hefyd, mae’r tripiau’n wych i roi seibiant iddynt oddi wrth eu brodyr”

“Rydych yn gwneud gwahaniaeth enfawr, gallwn dreulio amser gwerthfawr gyda’n plant eraill”

“Mae’r merched sy’n rhedeg y grŵp yn wych”

Gwelwch ein amrywiaeth mawr o wasanaethau yn y cartref ac yn y gymuned. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut i gael gafael ar y gefnogaeth yma, ffoniwch ni ar:

01492 542212

Nodwch os gwelwch yn dda bod yr un Gweithwyr Cymorth i Ofalwyr yn ymweld â'r un teuluoedd lle bo'n bosibl, gan olygu bod y gwasanaeth yn gyson ac yn sefydlog a bod llai o amhariad ar fywydau'r gofalwyr a'r bobl sydd dan eu gofal.