English / Cymraeg

PWY YDYM

Gwasanaeth Gofal Croesffyrdd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru yw'r corff mwyaf blaenllaw sy'n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol i ofalwyr di-dâl a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt drwy Ogledd Cymru gyfan. Rydym yn elusen gofrestredig ac yn bartner rhwydwaith i'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr sy'n fudiad cenedlaethol o elusennau lleol.

Mae gennym fwy na 35 mlynedd o brofiad o ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i ofalwyr ym Môn, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam. Ein nod yw gwella bywydau gofalwyr drwy roi seibiant iddynt o'r gwaith gofalu a gadael iddynt gael amser iddynt eu hunain gan wybod bod y sawl y maen nhw'n gofalu amdanynt mewn dwylo diogel

Rydym wedi ein cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i ddarparu gwasanaethau i oedolion a phlant ac rydym yn Ddarparydd Gofal Cymeradwy i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ag awdurdod lleol Gogledd Cymru a Ceredigion. Felly gallwn roi ein cefnogaeth i ofalwyr a phobl gydag anghenion gofal o bob oedran a chyflwr iechyd. Bydd pob defnyddiwr gwasanaeth yn derbyn gwasanaeth dwyieithog unigryw yn y cartref neu'r gymuned, o ddarparu cwmnïaeth achlysurol i roi gofal personol lefel uchel.

Mae ein staff i gyd yn gymwysedig ac wedi'u hyfforddi i lefel uchel ac maent oll wedi cael gwiriad datgeliad manylach DBS diweddar.

GWELWCH EIN AMRYWIAETH MAWR O WASANAETHAU YN Y CARTREF A'R GYMUNED > Gwelwch Yma

EIN GWELEDIGAETH

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru eisiau i bob gofalwr di-dâl gael eu cydnabod a'u cefnogi ac mae eisiau cynnig gwasanaethau iddynt i'w helpu i ddiogelu eu hiechyd a'u lles eu hunain.

EIN CENHADAETH

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru:

  • yn darparu gwasanaethau yn rhanbarth amrywiol Gogledd Cymru a Ceredigion sy'n ymateb i anghenion gofalwyr a'r bobl y maent yn eu cefnogi, gan gynnig tawelwch meddwl iddynt a dealltwriaeth ynglŷn â'u sefyllfa.
  • yn gweithio gyda gofalwyr a rhanddeiliaid eraill i ddylanwadu ar dyfiant ac arloesiad y gwasanaeth.

EIN GWERTHOEDD

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru'n rhoi'r gofalwyr a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt wrth galon popeth a wnawn:

  • Ymddiriedaeth - rydym yn deall yn iawn bod yn rhaid i ofalwyr allu ymddiried ynom i ofalu am y person sydd dan eu gofal, neu ni allem ymateb yn iawn i anghenion y gofalwr
  • Cyfranogaeth - y gofalwyr a'r bobl sydd dan eu gofal sy'n gyrru cynllun a datblygiad Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru.
  • Ansawdd - trwy gyflogi staff hyfforddedig, cymwysedig ac ymroddgar, rydym yn sicrhau bod ein gwasanaethau'n hyblyg, ymatebol, o safon uchel ac yn gwella drwy'r amser.
  • Ystyriaeth i'r teulu - mae ein gwasanaeth yn effeithio ar y gofalwyr a'r unigolion dan eu gofal wrth gwrs, ond gwyddom ei fod yn effeithio ar eu teuluoedd a'u cyfeillion hefyd. Felly awn ati i gynllunio ein gwasanaethau gyda hynny mewn golwg.
  • Ar gael a hawdd ein cyrraedd - rydym yn gweithio i sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael ac yn hawdd eu cyrraedd i gymaint o ofalwyr a phobl dan eu gofal ag sy'n bosibl.
  • Urddas a pharch - rydym bob amser yn trin gofalwyr a'r bobl a gefnogant gydag urddas a pharch.
  • Gweithio i newid - rydym yn gweithio'n rhagweithiol gyda'r llywodraeth a gwneuthurwyr polisïau ar lefel genedlaethol a lleol i ddylanwadu ar arferion a deddfwriaeth.
  • Gweithio mewn partneriaeth - rydym yn mynd ati'n frwd i chwilio am gyfleoedd i sefydlu prosiectau ar y cyd a pherthynas gyda mudiadau gofalu a sefydliadau eraill a fydd yn gwella gwasanaethau i ofalwyr a'r bobl dan eu gofal.
  • Dysgu - rydym yn dysgu o weld arferion da pobl eraill er mwyn gwella ein gwasanaethau i ofalwyr a'r bobl dan eu gofal ac rydym yn annog pobl eraill i ddysgu gennym ni.
  • Iaith - rydym yn parchu amrywiaeth y diwylliant a'r iaith yng Ngogledd Cymru ac yn sicrhau bod gwasanaeth dwyieithog ar gael fel y bo'i angen.