CROESO I YMDDIRIEDOLAETH GOFALWYR GOGLEDD CYMRU
GWASANAETHAU GOFAL CROESFFYRDD
PWY YDYM
Mae gennym fwy na 35 mlynedd o brofiad o ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i ofalwyr ym Môn, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam. Ein nod yw gwella bywydau gofalwyr drwy roi seibiant iddynt o'r gwaith gofalu a gadael iddynt gael amser iddynt eu hunain gan wybod bod y sawl maen nhw'n gofalu amdanynt mewn dwylo diogel.
Canfod Rhagor
GWASANAETHAU
Gwelwch ein amrywiaeth eang o wasanaethau yn y cartref ac yn y gymuned, gan gynnwys:
Gofal Seibiant, Gofal Gwalia, Cymorth Dementia, Grwpiau Cymunedol
a mwy
Gwelwch nhw yma
CANFOD SUT Y GALLWCH CHI HELPU:
SYLWADAU DEFNYDDWYR EIN GWASANAETHAU
“Mae’r cyfle i sgwrsio a dod yn ffrindiau gyda staff Croesffyrdd o fudd enfawr i mi a’m gwraig”
“Mae’n bleser o’r mwyaf dod i’ch grŵp, mae’n gymaint o hwyl bob amser ”
“Rydych yn gwneud llawer iawn o wahaniaeth i ansawdd fy mywyd”
“Mae eich Gweithwyr Cymorth yn bobl mor ofalgar a chariadus a gallwn oll ymddiried ynddynt”
“Mae’n nefoedd cael egwyl bob wythnos, dyma’r unig seibiant a gaf”
“Alla i ddim canmol y gwasanaeth yma ddigon… mae’r gwasanaeth mor fuddiol i ni oll fel teulu”
“Os na fyddai fy ngweithiwr cymorth yn dod yma, fyddwn i byth yn gadael y tŷ”
“Mae angen egwyl ar frodyr a chwiorydd hefyd, mae’r tripiau’n wych i roi seibiant iddynt oddi wrth eu brodyr”
“Rydych yn gwneud gwahaniaeth enfawr, gallwn dreulio amser gwerthfawr gyda’n plant eraill”
“Mae’r merched sy’n rhedeg y grŵp yn wych”