English / Cymraeg

Recriwtio

PENODI STAFF

GWEITHWYR CEFNOGI GOFALWYR ***NEWYDD***

Description

Ydych chi’n chwilio am swydd wobrwyol a buddiol? Dewch i ymuno â’n tîm ni yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, sy’n rhoi cymorth ymarferol i ofalwyr di-dâl Rydym yn chwilio am bobl gyfeillgar a brwdfrydig fyddai’n hoffi bod yn rhan o’n helusen leol.…

PENODI YMDDIRIEDOLWYR

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru'n chwilio am Ymddiriedolwyr newydd ar hyn o bryd i ychwanegu at aelodaeth ei Bwrdd.

Os oes gennych unrhyw amser sbâr y gallech ei neilltuo i'r Ymddiriedolaeth, byddem wrth ein boddau'n clywed gennych. Does dim rhaid i chi fod â phrofiad o'r sector gofalu, oherwydd byddem yn croesawu profiad mewn meysydd eraill megis cyllid, marchnata, y gyfraith, rheolaeth ac iechyd Byddem hefyd yn hapus iawn i dderbyn ceisiadau gan ofalwyr, a allai roi cipolwg personol i'r Bwrdd o'r rôl o ofalu.

Rydym yn cynnal ein cyfarfodydd tua unwaith y mis a byddwn yn talu costau teithio.

Os hoffech wneud cais neu os hoffech ragor o fanylion, ffoniwch ar

01492 542212

neu ebostiwch

northwales@ctnw.org.uk.