English / Cymraeg

Rhoi

Rhoi

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru'n dibynnu'n drwm ar gyllido a rhoddion i ddarparu gwasanaethau i ofalwyr yn siroedd Gogledd Cymru. Am bob punt a roddir i ni, rydym yn dychwelyd £1.70 mewn gwerth cymdeithasol i ofalwyr di-dâl.

Mae ein 'Cyfeillion' ardderchog wedi codi symiau sylweddol o arian i ni dros y blynyddoedd ac rydym mor ddiolchgar iddynt oll am eu hymdrechion. Mae'r arian ychwanegol yma'n gadael i ni gynyddu ein cefnogaeth i ofalwyr di-dâl yn y sir lle mae'r arian yn cael ei godi..


Os hoffech wneud cyfraniad, gallwch:

Anfon Siec

Gallwch wneud sieciau'n daladwy i Carers Trust North Wales a'u hafon atom yn
Parc Menter Quinton Hazell, Ffordd Glan-y-Wern, Bae Colwyn, Conwy, LL28 5BS.

Bancio Ar-Lein

Ffoniwch ni yn y swyddfa os hoffech wneud rhodd ar-lein neu gallwn drefnu i sefydlu taliadau debyd uniongyrchol bob mis.

Os hoffech gymryd rhan mewn unrhyw weithgareddau codi arian neu helpu gyda'n grwpiau 'Cyfeillion' ffoniwch ni ar

01492 542212