Seibiant Tymor Byr i Ofalwyr sydd ag Angen Iechyd
Cawn ein ariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i roi cymorth seibiant i adael i ofalwyr ofalu am eu hanghenion iechyd eu hunain, p'un a oes angen iddynt fynd i apwyntiad ysbyty neu i weld meddyg teulu, cael triniaeth neu fynd i apwyntiad gyda'r optegydd neu'r deintydd, neu ddim ond i gael egwyl os ydynt yn teimlo braidd yn anhwylus ac angen rhywfaint o gefnogaeth i'w cadw eu hunain a'r unigolyn dan eu gofal yn iawn. Gall gofalwyr ddefnyddio'r gwasanaeth yma ar ôl cael llawdriniaeth.
Mae'r gwasanaeth ar gael am unrhyw 12 wythnos dros gyfnod o 12 mis, rhwng 9.00 am a 5.00 pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut i gael y gefnogaeth yma, ffoniwch ni ar: