Gofal Seibiant
Os ydych yn gofalu am aelod o’ch teulu, partner, plentyn neu gyfaill, gallwn gynnig gwasanaethau seibiant ymarferol yn eich cartref i adael i chi gael egwyl o’ch rôl ofalu. Gall ein gweithwyr Cymorth i Ofalwyr hyfforddedig gynnig y pethau yma:
- Gofal Personol – help i gymryd cawod/bath, bwydo, mynd i mewn ac allan o’r gwely ac ati
- Meddyginiaeth – mae’r Gweithwyr Cymorth i Ofalwyr wedi eu hyfforddi i roi meddyginiaeth os oes raid
- Cymorth gyda Siopa – gallwn gynnig cludiant i’ch cymryd i’r siopau ac i’ch helpu i ddod â’ch nwyddau yn ôl
- Cymorth gyda Gwaith Tŷ – gallwn helpu gyda gwaith tŷ, smwddio a pharatoi bwyd
- Casglu a Dod â Phresgripsiwn atoch – gallwn nôl eich moddion presgripsiwn a dod â nhw i’ch cartref
- Cymorth Emosiynol – gall ein Gweithwyr Cymorth i Ofalwyr wrando arnoch a’ch cysylltu â grwpiau cymorth eraill
Yn ogystal â’r uchod, mae nifer o’n Gweithwyr Cymorth i Ofalwyr wedi eu hyfforddi a’u hyswirio i roi:
- Gofal lliniarol a chefnogaeth ar ddiwedd oes
- Gofal dementia yn cynnwys grwpiau cymdeithasol
- Cefnogi oedolion gydag anghenion cymhleth yn cynnwys ymddygiad heriol
Os byddwch angen seibiant o’ch rôl ofalu, efallai y gallech hawlio cymorth wedi’i ariannu gan eich awdurdod lleol. Gallwn roi cyngor i chi ynglŷn â sut i gael gafael ar y gefnogaeth yma yn eich ardal chi felly ffoniwch ni yma i ganfod rhagor: