Adroddiadau
ELW CYMDEITHASOL AR FUDDSODDIAD
Wednesday 7th December 2016
O'r diwedd mae'n bosibl i ni ddangos yn iawn faint o fudd sydd mewn rhoi seibiant i gannoedd o ofalwyr di-dâl sy'n byw yng Ngogledd Cymru.
Mae gofalwyr ar ddyletswydd 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Os na chânt seibiant yn rheolaidd, mae'r effaith ar fywyd y gofalwyr yn gallu bod yn enfawr. I ofalwyr fel Joan sy'n edrych ar ôl ei gŵr sydd â dementia, mae lefelau uchel o straen drwy'r amser mewn bywyd, ac mae hyn yn arwain at iselder ac iechyd corfforol gwael yn aml iawn. Y canlyniad wrth gwrs yw bod y gofalwr yn fwy tebygol o fod angen cymorth a gwasanaethau ei hun. Mae gofalwyr heb eu cefnogi fel Joan yn fwy tebygol o gyrraedd pwynt argyfwng a gall hyn effeithio'n negyddol ar y sawl y maent yn gofalu amdanynt gan olygu bod ar ddau berson angen gwasanaethau ychwanegol a gofal lefel uwch. Nid Joan yw'r unig un sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar gefnogaeth ymarferol ac emosiynol.
Ar hyn o bryd rydym yn wynebu cylch anodd, yn enwedig wrth i ni gyrraedd misoedd y gaeaf a'r cynnydd cysylltiedig yn y nifer o bobl sy'n mynd i adran Ddamwain ac Argyfwng yr ysbyty. Yn fan honno wrth gwrs, mae'r adnoddau cyfyngedig yn cael eu canolbwyntio fwyfwy ar y rheiny sydd â'r angen mwyaf. Ond, mae hyn yn gwneud pethau'n waeth am fod llawer o ofalwyr heb gefnogaeth, yn ceisio ymdopi ar eu pennau eu hunain, yn mynd i ysbytai drud yn aml iawn neu ofal argyfwng y mae ein systemau presennol yn cael trafferth ymdopi ag o.
Yn ddiweddar, comisiynodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru waith ymchwil gyda'r Sefydliad Economeg Newydd (NEF) a'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr a geisiodd ddangos tystiolaeth o wir werth rhoi egwyl i ofalwyr. Daeth y prosiect i'r casgliad bod pob £1 sy'n cael ei wario ar ddarparu egwyl i ofalwyr yn rhoi £1.70 yn ei ôl mewn gwir werth i'r awdurdod sy'n comisiynu ac yn ariannu'r gwasanaeth.
A hithau wedi derbyn y gwasanaeth cymorth seibiant am 6 mis erbyn hyn, mae Joan yn dweud hyn: "Nawr ein bod ni'n cael cefnogaeth gan Croesffyrdd, mae'r seibiant yn gadael i mi gael amser i mi fy hun a dydw i ddim yn teimlo'n isel bellach."