English / Cymraeg

NEWYDDION

DWIRNOD YMWYBYDDIAETH GOFALWYR IFANC - 25 IONAWR 2018

DWIRNOD YMWYBYDDIAETH GOFALWYR IFANC - 25 IONAWR 2018

Wednesday 24th January 2018

Mewn sesiwn hyfforddi ddiweddar gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, cymerodd nifer o bobl ifanc o Gonwy a Môn yr amser i hybu'r Diwrnod Ymwybyddiaeth am Ofalwyr Ifanc sy'n digwydd ar Ionawr 25 2018.

Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod mwy na 700,000 o ofalwyr ifanc yn y Deyrnas Unedig a bod gan Gymru'r gyfran uchaf o ofalwyr sy'n oedolion ifanc (16-25 oed) yn y Deyrnas Unedig gyfan. Mae llawer o ofalwyr ifanc yn cael trafferth cydbwyso eu haddysg gyda'u gwaith gofalu ac mae hyn yn gallu achosi pwysau a straen. Mae 1 ymhob 20 yn colli'r ysgol oherwydd eu rôl ofalu, mae 26% yn dweud eu bod wedi cael eu bwlio yn yr ysgol oherwydd eu rôl ofalu ac mae gofalwyr sy'n oedolion ifanc ddwywaith mor debygol o fynd yn NEET (Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant).

Meddai un Gofalwr Ifanc sy'n gofalu am ei mam: 'Rydych yn colli cyfleoedd a phrofiadau wrth dyfu i fyny - methu mynd allan gyda'ch ffrindiau gymaint ag yr hoffech; methu ymlacio pryd bynnag y dewiswch; methu ymddwyn fel rhywun arferol yn ei arddegau - methu mynd i glybiau ieuenctid, cael hobi, teimlo nad oes gennych unrhyw bryder yn y byd, mynd i bartis a chael hwyl. I fod yn onest, rydw i'n colli allan ar fod yn rhywun ifanc arferol. Ond, rwyf wedi elwa hefyd drwy gael perthynas agos gyda mam - efallai bod hyn yn anarferol i rywun ifanc ond, credwch neu beidio, dydw i a mam byth yn dadlau!'

Diolch i Make Some Noise Global (mae Global yn elusen fewnol yn Heart FM/Capital Radio) rydym ni, yn Ymdirriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, yn gallu roi cefnogaeth yn benodol i ofalwyr 16-25 oed. Meddai Alison Jones y Prif Swyddog Gweithredol: 'Roeddem wrth ein boddau i dderbyn y cyllid yma gan Global. Gallwn deilwra ein cefnogaeth i ateb yr hyn mae pobl ifanc ei angen mewn gwirionedd, naill ai gefnogaeth seibiant yn y cartref, darparu grwpiau, hyfforddiant a thripiau cymdeithasol, cludiant i fynd i apwyntiadau, cyngor a gwybodaeth, a chefnogaeth i wneud cais am grantiau unigol ar gyfer pethau fel gwersi gyrru ac offer y cartref.'

Gall unrhyw un sydd eisiau defnyddio'r gwasanaeth yma ffonio Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru ar 01492 542122 neu anfon neges e-bost i northwales@nwcrossroads.org.uk.