NEWYDDION
![HEDIAD HAEL](https://s3.eu-west-1.amazonaws.com/cdn.webfactore.co.uk/sr_829336.jpg?t=1709996943)
HEDIAD HAEL
Thursday 24th January 2019
Yn ddiweddar bu unigolyn dewr iawn yn codi arian yn Zip World, drwy fentro mynd ar y Wifren Wib gyflymaf yn y byd, a chodi swm enfawr o arian i ni diolch i'w dewrder a'i menter.
Rydym yn eithriadol ddiolchgar i AUDREY COX o Ddinbych a wibiodd drwy'r awyr ar gyflymder o oddeutu 100 milltir yr awr dros Chwarel Lechi Penrhyn, Bethesda. Cododd fwy na £800 ar ein rhan a bydd yr arian yma'n ein galluogi i roi cymorth ychwanegol hynod o angenrheidiol i ofalwyr di-dâl sy'n byw yn yr ardal leol.
Ar ein rhan ni i gyd:
DIOLCH YN FAWR IAWN AUDREY AM EICH DEWRDER AC AM HELPU'R GOFALWYR.