English / Cymraeg

NEWYDDION

LANSIO GWASANAETH CYMORTH DEMENTIA

LANSIO GWASANAETH CYMORTH DEMENTIA

Thursday 5th January 2017

Mae'n bleser mawr gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr lansio'r Gwasanaeth Cymorth Dementia newydd sbon a aeth yn 'fyw' ar Hydref 3 2016. Sefydlwyd y gwasanaeth i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn dilyn diagnosis i bobl sydd newydd glywed bod ganddynt Ddementia, ynghyd â'u teuluoedd, ac mae ar gael ar hyd a lled y chwe sir yng Ngogledd Cymru.

Meddai Arweinydd y Prosiect, Lisa Jones (yn y llun ar y chwith): Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithredu gwasanaeth y mae gofyn mawr amdano, ac at fod yn rhan ohono. Mae'r tîm yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, Gwasanaethau Gofal Croesffyrdd, yn aelodau staff hynod brofiadol a hyfedr sy'n darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor am Ddementia. Ynghyd â'n partneriaeth gyda'r BCUHB a defnyddwyr y gwasanaeth, rydym eisiau sicrhau canlyniadau mwy positif er budd iechyd a lles pobl sydd â Dementia a'u gofalwyr yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth yma - gwelwch ein hadran Gwasanaeth Cymorth Dementia o dan Ein Gwasanaethau.

Yn y llun o'r chwith i'r dde:
Lisa Jones Arweinydd Prosiect; Sean Page Nyrs Ymgynghorol BCUHB; Alison Jones Rheolwr Cyffredinol Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru; Mark Jenkinson Arweinydd Gwasanaeth Cof BCUHB