NEWYDDION
LANSIO GWASANAETH CYMORTH DEMENTIA
Thursday 5th January 2017
Mae'n bleser mawr gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr lansio'r Gwasanaeth Cymorth Dementia newydd sbon a aeth yn 'fyw' ar Hydref 3 2016. Sefydlwyd y gwasanaeth i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn dilyn diagnosis i bobl sydd newydd glywed bod ganddynt Ddementia, ynghyd â'u teuluoedd, ac mae ar gael ar hyd a lled y chwe sir yng Ngogledd Cymru. Meddai Arweinydd y Prosiect, Lisa Jones (yn y llun ar y chwith): Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithredu gwasanaeth y mae gofyn mawr amdano, ac at fod yn rhan ohono. Mae'r tîm yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, Gwasanaethau Gofal Croesffyrdd, yn aelodau staff hynod brofiadol a hyfedr sy'n darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor am…
GLOBAL MAKE SOME NOISE
Wednesday 7th December 2016
Global Make Some Noise yw elusen fewnol swyddogol Global, y grŵp cyfryngau ac adloniant (Heart FM, Capital Radio, Smooth, Classic FM, LBC). Roeddem wrth ein boddau pan gafodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru ei dewis yn un o'u Helusennau'r Flwyddyn yn 2017-18. Mae Global Make Some Noise wedi bod yn codi arian ar ein rhan yn barod gyda'u Diwrnod Gwneud Sŵn (Make Some Noise Day) a gynhaliwyd ganddynt ar Hydref 7 pan wisgodd bawb ddillad LLACHAR! Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoddi hyd yn hyn! Edrychwch ar wefan Global Make Some Noise i weld beth sydd wedi bod yn digwydd a sut i gymryd rhan: Global Make Some Noise
GWEFAN NEWYDD
Wednesday 7th December 2016
Mae'n bleser mawr gennym lansio ein gwefan newydd a fydd, gobeithio, yn cynnwys yr holl wybodaeth yr ydych ei hangen am ein sefydliad a sut y gallwn eich helpu a'ch cefnogi chithau, aelod o'ch teulu, cyfaill neu gymydog. Hoffem glywed adborth gennych rhag ofn eich bod wedi chwilio am rywbeth nad ydym wedi ei gynnwys, neu fod gennych awgrymiadau am ffyrdd o'i gwella. Dyma ein cyfeiriad ebost: northwales@nwcrossroads.org.uk neu gallwch glicio ar yr eicon amlen ar waelod ein Tudalen Hafan, EDRYCHWN YMLAEN AT GLYWED GENNYCH!