English / Cymraeg

NEWYDDION

CANOLFAN DEMENTIA GOGLEDD CYMRU

Tuesday 13th July 2021

Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein Canolfan Dementia newydd Gogledd Cymru bellach ar agor! Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Cymru ac angen gwybodaeth neu gyngor, neu os oes gennych ddiddordeb yn ein Gwasanaethau Dementia, rhowch ganiad i ni ar 01492 542212. Bydd staff ein Canolfan Dementia yn rhoi galwad yn ôl i chi ac yn cael sgwrs dros y ffôn neu byddant yn trefnu apwyntiad i chi yn y Ganolfan. Rydym yn ddiolchgar i Jez Hemmings yn y Daily Post am ein helpu i godi ymwybyddiaeth o'r Ganolfan: DAILY POST

view more »


EASYFUNDRAISING

Tuesday 2nd July 2019

EIN HELPU NI I GODI ARIAN Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru wedi cofrestru gyda "Easyfundraising" sydd yn troi eich siopa ar-lein bob dydd yn roddion am ddim i'ch hoff achos. Sut mae hyn yn gweithio? Yn gyntaf dechreuwch eich siopa ar-lein gyda "Easyfundraising", yna siopwch fel arfer. Yna bydd y manwerthwyr yn gwneud cyfraniad bach i ddweud 'Diolch' i'r achos ydych wedi ddewis. Dyma ein cyswllt os hoffech ddewis Ymddiriedolwyr Gofalwyr Gogledd Cymru: Easyfundraising:

view more »


HEDIAD HAEL

Thursday 24th January 2019

Yn ddiweddar bu unigolyn dewr iawn yn codi arian yn Zip World, drwy fentro mynd ar y Wifren Wib gyflymaf yn y byd, a chodi swm enfawr o arian i ni diolch i'w dewrder a'i menter. Rydym yn eithriadol ddiolchgar i AUDREY COX o Ddinbych a wibiodd drwy'r awyr ar gyflymder o oddeutu 100 milltir yr awr dros Chwarel Lechi Penrhyn, Bethesda. Cododd fwy na £800 ar ein rhan a bydd yr arian yma'n ein galluogi i roi cymorth ychwanegol hynod o angenrheidiol i ofalwyr di-dâl sy'n byw yn yr ardal leol. Ar ein rhan ni i gyd: DIOLCH YN FAWR IAWN AUDREY AM EICH DEWRDER AC AM HELPU'R GOFALWYR.

view more »


AROLWG O FODDHAD Y CWSMER

Thursday 14th June 2018

Mae'r amser wedi cyrraedd unwaith eto i ni anfon ein Arolwg o Foddhad y Cwsmer atoch er mwyn canfod eich barn ac unrhyw syniadau neu awgrymiadau sydd gennych am wasanaethau'r dyfodol. Mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cael adborth er mwyn i ni allu sicrhau bod y gwasanaethau a gynigiwn yn ystyrlon a gwerth eu cael. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi anfon arolwg eleni yn ôl yn barod, rydym yn gwir werthfawrogi hynny. Y llynedd cawsom ymateb gwych gennych i gyd, ac rydym wedi atodi ein gwerthusiad annibynnol o'r canlyniadau. Ewch i gael sbec: Arolwg o Foddhad Cwsmer - Gorffennaf 2017

view more »


DWIRNOD YMWYBYDDIAETH GOFALWYR IFANC - 25 IONAWR 2018

Wednesday 24th January 2018

Mewn sesiwn hyfforddi ddiweddar gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, cymerodd nifer o bobl ifanc o Gonwy a Môn yr amser i hybu'r Diwrnod Ymwybyddiaeth am Ofalwyr Ifanc sy'n digwydd ar Ionawr 25 2018. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod mwy na 700,000 o ofalwyr ifanc yn y Deyrnas Unedig a bod gan Gymru'r gyfran uchaf o ofalwyr sy'n oedolion ifanc (16-25 oed) yn y Deyrnas Unedig gyfan. Mae llawer o ofalwyr ifanc yn cael trafferth cydbwyso eu haddysg gyda'u gwaith gofalu ac mae hyn yn gallu achosi pwysau a straen. Mae 1 ymhob 20 yn colli'r ysgol oherwydd eu rôl ofalu, mae 26% yn dweud eu bod wedi cael eu bwlio yn yr ysgol oherwydd eu rôl ofalu ac mae gofalwyr…

view more »


GWOBRAU BUSNES 2017 Y DAILY POST

Monday 6th November 2017

Mae hi wedi bod yn bleser mawr gennym glywed ein bod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Busnes 2017 y Daily Post! Cyhoeddwyd hyn yn y papur newydd yr wythnos diwethaf a chawsom yr hysbysiad isod gan Dîm Digwyddiadau'r Daily Post: 'Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych eleni, yn gyntaf am safon eithriadol o uchel y ceisiadau a dderbyniwyd ac hefyd oherwydd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd gan fusnesau unigol. Mae'r beirniaid wedi ei chael hi'n hynod o anodd dod i benderfyniad. Mae'n bleser rhoi gwybod i chi bod Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru Carers Trust North Wales wedi llwyddo i gael eu dewis i fynd i'r rownd derfynol yn y categori "Gwobr Gymunedol dan nawdd Horizon Nuclear Power". Llongyfarchiadau!' Bydd…

view more »


WYTHNOS YMWYBYDDIAETH DEMENTIA

Thursday 4th May 2017

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia yn dod i fyny: 15-21 Mai 2017 - edrychwch ar y daflen am fanylion o ble byddwn yn mynd

view more »


DIOLCH YN FAWR IAWN I GLOBAL MAKE SOME NOISE

Thursday 13th April 2017

Mae'n bleser o'r mwyaf gennym dderbyn £78,700 gan @globalmakesomenoise. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r plant a'r bobl ifanc a gefnogwn ym Môn, Conwy a Sir y Fflint. Diolch yn fawr i bawb yn Capital y Gogledd Orllewin a Gogledd Cymru a Heart Gogledd Cymru am helpu i wireddu hyn. Gwyliwch ni gael ein syndod mawr: Heart FM

view more »


GOROESI

Thursday 6th April 2017

Gan weithio gyda Wild Elements sydd wedi eu seilio yng Ngerddi Botaneg Treborth ym Mangor, rydym yn edrych ymlaen at gynnal 'cwrs goroesi' i Oedolion Ifanc sy'n Ofalwyr y Gwanwyn/Haf yma. Bydd y cwrs yn cychwyn ar ôl y Pasg pan fyddwn yn cynnal cyfres o sesiynau gyda'r nos yn arwain at wersyll dros nos ym mis Gorffennaf. Bydd y cwrs yn ymwneud â sgiliau megis Cymorth Cyntaf ac Iechyd a Diogelwch, gyda gweithgareddau a fydd yn cynnwys archwilio'r awyr agored, gwneud lloches, coginio tu allan, cerddoriaeth, a rhagor o bethau annisgwyl! Os ydych yn ofalwr 16-25 oed sy'n byw yn ardaloedd Môn/Bangor a chennych ddiddordeb mewn dod, ffoniwch ni ar 07887 3672220 i gael rhagor o fanylion. Mae'r…

view more »


RHEDEG ER BUDD GOFALWYR

Thursday 6th April 2017

Llongyfarchiadau i Heulwen Williams ein Gweithiwr Cefnogi Gofalwyr sy'n gweithio ym Môn. Llwyddodd i gwblhau ras 5k yn ddiweddar gan godi mwy na £200 i Ofalwr ym Môn ar yr un pryd. Diolch Heulwen am eich ymdrech wych - gobeithio y cawsoch floedd gefnogol a haeddiannol wrth basio'r linell derfyn!

view more »


Y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

Tuesday 7th February 2017

Wedi i'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gael ei chyflwyno yn Ebrill 2016, mae'r gefnogaeth y mae gan Ofalwyr hawl ei derbyn gan eu hawdurdodau lleol wedi newid. Darllenwch y daflen wybodaeth atodol os gwelwch yn dda sy'n amlinellu'r hyn y gallech chi fel Gofalwr fod yn gymwys i'w dderbyn a sut i ofyn am Asesiad Gofalwyr: TAFLEN CEFNOGAETH I OFALWYR

view more »


LANSIO GWASANAETH CYMORTH DEMENTIA

Thursday 5th January 2017

Mae'n bleser mawr gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr lansio'r Gwasanaeth Cymorth Dementia newydd sbon a aeth yn 'fyw' ar Hydref 3 2016. Sefydlwyd y gwasanaeth i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn dilyn diagnosis i bobl sydd newydd glywed bod ganddynt Ddementia, ynghyd â'u teuluoedd, ac mae ar gael ar hyd a lled y chwe sir yng Ngogledd Cymru. Meddai Arweinydd y Prosiect, Lisa Jones (yn y llun ar y chwith): Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithredu gwasanaeth y mae gofyn mawr amdano, ac at fod yn rhan ohono. Mae'r tîm yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, Gwasanaethau Gofal Croesffyrdd, yn aelodau staff hynod brofiadol a hyfedr sy'n darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor am…

view more »